Skip to content

Chapter III: Part 3

Text size

Non abs re fore judicavi hic monumentum vetus inserere; quod in manuscripto JOH. DAV. RHESI propria manu exarato inveni. Quod quidem manuscriptum dignum est omnino quod prelo mandetur: nostram enim linguam poesin, et alia vetusta monumenta adversus ignarum quendam calumniatorem, quorum messem innumeram haec aeque ac superior aetas tulit, strenue vindicat. Hic tractatus in lingua Britannica eleganter scriptus est, et talium nebulonum inscitiam protervam facile retundit. Videtur vir doctissimus hoc monumentum ex vetusto aliquo scriptore nunc deperdito excerpsisse. Utcunque sit, id ego ex ejus autographo hic fideliter exscribere curavi. "BLETHINUS filius CYNVINI patri in principatu _Povisiae_ successit. Hic templa, castra et maneria renovari fecit, leges HOWELI observavit. Inter tres principes, videlicet, GRUFFINUM filium CONANI principem _Venedotiae_, BLETHINUM filium CYNVINI principem POVISIAE, et RHESUM filium TEWDWR principem _Suth-walliae_ inquisitio magna fuit de armis et de regali sanguine antiquorum Britonum. Quibus conquisitis in ditione sapientium Walliae; repertae fuerunt tres lineae regales, et quindecim lineae de sanguine nobilium senatorum Britanniae. Hic BLETHINUS primus omnium principum _Povisiae_, in armis usus est leone rubeo in sulphure. Hic castrum de _Dol y Forwyn_ fundavit, et apud _Mifod_ sepultus est."

Sunt in istis genealogiis multa quae antiquario Britannico usui esse possunt; nihil enim apud nostrates vel antiquius vel magis autenticum extat, et nihil quod magis nostram illustrat et confirmat historiam. Nonnulli enim ex Bardis non solum rei poeticae, verum etiam historicae mentem appulerunt. Erat in monasteriis uber historiarum, genealogiarum et poeseos collectio. Bardi enim ab abbatibus maxime fovebantur, et erant in festis solennibus ab iis laute excepti: uti constat ex operibus GUTTO'R GLYNN, GUTTUN OWAIN, IEUAN DEULWYN et TUDUR ALED. Extant et nunc in nobiliorum aedibus innumera Epicedia, quae nostrates _Cywyddau Marwnad_ nuncupavere: fuit enim Bardi domestici munus, cum aliquis e familia obierit, ejus Epicedium concinnare, quod post exequias ad cognatos fuit delatum et coram iis a Rhapsodis quos nostrates _Datceiniaid_ nominavere recitatum. Inter alia quae in defuncti honorem sunt narrata, ejus genealogiam memorare tenebatur, ex quibus nobilibus ortus fuerit familiis, et quae praeclara fecerint ejus majores facinora. Hujuscemodi poematum multa vidi exemplaria pulchre exarata. Ab ELIZABETHAE Reginae tempore nullus fuit Bardorum legitimus consessus: unde fit ut nil sit deinceps accurate et secundum prosodiae regulas scriptum: eousque ut jamdudum Bardorum et historicorum opera (ex quibus solis vera et genuina Britanniae historia petenda est) in maximo sint periculo ne funditus pereant. Quod multas ob causas in seculo tam docto et sagaci maxime est deplorandum, sunt quidem hoc aevo qui haec studia velint rediviva, et qui plus ipsi possint in re poetica atque historica quam quos superior tulit aetas. Inter quos societas _Cymmrodorion_ Londini, patriae atque maternae linguae amore instigata, inter alia laude digna instituta, nonnulla veterum et recentiorum melioris notae Bardorum poemata typis mandare meditatur. Opus profecto omnibus Cambris ingenuis gratissimum et longe desideratissimum. Optandum est potius quam expectandum, ut ii qui habent aliquid in poesi vel historia notatu dignum in privatis bibliothecis reconditum, id in vulgus emittant, aut saltem ab iis qui hujusmodi rebus operam navant perlegi permittant. Sic enim suae famae et patriae commodo melius consulent quam vermibus et muribus committere.

Ego autem in Cambriae montibus degens a bibliothecis et museis procul, quod potui feci; utinam ii qui plus possint, et materiam uberiorem sunt nacti de Bardis, et caeteris Britannicae antiquitatis reliquiis, meliora cudant.

YCHYDIG AWDLAU O WAITH YR HEN FEIRDD, YN AMSER TYWYSOGION CYMRU; WEDI EU CYFIEITHU I'R SAESONEG;

Er mwyn dangos ansawdd ein Prydyddiaeth i wyr cywraint, dysgedig, anghyfiaith: a nodau byrrion, i eglurhau enwau Dynion, a Lleoedd, a grybwyllir ynddynt; a hanes byrr o honynt, wedi ei gasglu allan o _Drioedd Ynys Prydain_, a hen Goffadwriaeth eraill; er dywenydd i'r oes hon, ac er adfer ei haeddedigawl barch i'r hen famiaith _Gymraeg_, ac i'n Gwlad; a'u dyledus glod i'w thrigolion dewrwych gynt.

* * * * *

[Greek text]

THEOCRITUS Idyll, xvi.

* * * * *

AT RISIART MORYS, YSWAIN, LLYWYDD CYMDEITHAS Y CYMMRODORION YN LLUNDAIN; A'I FRODYR, LEWIS MORYS, YSWAIN, O BENBRYN, YNG NGHEREDIGION; A WILLIAM MORYS, O GAERGYBI, YM MON.

Ni bum yn hir yn myfyrio i bwy i cyflwynwn yr ychydig Awdlau sydd yn canlyn, canys ni adwaen i neb heddyw ag sydd yn eu deall cystal a chwi, na neb chwaith sydd yn coledd ac yn mawrhau ein iaith mor anwylgu Frutannaidd. I mae ein gwlad ni yn rhwymedig i bob un o honoch: i chwi y _Llywydd_, yn enwedig, am y gofal a gymmerasoch yn golygu argraffiad diweddaf y _Bibl Cyssegrlan_, er lles tragwyddol eneidiau ein cydwladwyr. Ef a dal Duw i chwi am y gorchwyl elusengar yma, pan i bo'r byd hwn, a'i holl fawredd a'i wychder, wedi llwyr ddiflannu. Ac i mae'r wlad a'r iaith yn dra rhwymedig i'r _Gwr o Benbryn_, am gasglu cymmaint o _Hanesion ynghylch ein Hynafiaid_, na chlywodd y _Saeson_ braidd son erioed am danynt. Ef a ddelwent ddilynwyr _Camden_, pei gwelynt fal i mae yn argyhoeddi ac yn ceryddu eu beiau, a'u tuedd gwyrgam, yn bychanu ac yn distadlu y pethau nad ydynt yn eu deall; ac o wir wenwyn yn taeru mai dychymmygion diweddar ydynt. Gobeithio i cawn ni weled y trysor mawrwerthiog yma ar gyhoedd; i beri gosteg, ac i dorri rhwysg y cyfryw oganwyr ein hen hanesion. Nid bychan o les i mae _y Gwr o Gaergybi_ ynteu yn ei wneuthur, trwy gasglu _Gwaith yr hen Feirdd_ godidog gynt; ac ir wyf yn cyfaddef mai o'i lyfrau ef i cefais i y rhan fwyaf o'r odlau sydd yn canlyn. Ni fedrwn lai na dywedyd hyn am eich ewyllys da i'ch gwlad a'ch iaith; cynneddfau sydd, ysywaeth, mor brin ac anaml yn yr oes hon. Ef a ddichon hyn beri i'n gwlad agor ei llygaid, a defnyddio yn well rhagllaw yr hen ysgrifenadau sydd heb fyned ar goll. Ac os na wna hi hyny, i mae yn rhaid addef i chwi eich trioedd wneuthur eich rhan yn odiaeth. Hyn a'm hannogodd i roddi blaenffrwyth fy llafur, er nad yw ond bychan, dan eich nodded; a gobeithio nad ydyw Iwyr annheilwng i'w gyhoeddi, ag i daw rhywun cywreiniach i ddiwygio yr hyn sydd ammherffaith, ac i osod allan pethau eraill godidoccach. Nid oedd genyfi ond torri'r garw, gobeitho i daw eraill i lyfnhau a gwastattau y balciau. Yn ddiau ni fuaswn i yn cymmeryd yr orchest yma arnaf, ond darfod edliw o'r _Saeson_, nad oes genym ddim mewn Prydyddiaeth a dal ei ddangos i'r byd: a bod un o drigolion yr _Uch Alban_ gwedi cyfieithu swrn o waith hen fardd; neu yn hytrach wedi addurno a thacclu rhyw waith diweddar, a'i osod allan yn ei enw ef. Chwi a wyddoch yn dda, oddiwrth waith ein hen feirdd awduraidd ni, sydd eto i'w gweled, nad ydyw ddim tebygol fod y bardd gogleddig mor henaidd: ond nid af i i ymyrryd ag ef ym mhellach yr awron. Y mae yn ddigon genyfi roddi hyn o brawf o'n hen feirdd ein hunain i'r byd; ac os darfu i mi wneuthur cyfiawnder iddynt, dyna fi wedi cyrraedd fy amcan. Pa fodd bynnag i digwyddo, i mae'n llawen genyf gael odfa i dystiolaethu fy mod yn mawrygu yn ddirfawr eich cariad a'ch traserch chwi at eich gwlad a'ch iaith; yn yr hyn i damunwn, yn ol fy ngallu, eich canlyn; a datcan, yngwydd yr holl fyd, fy mod, frodyr haeddbarch,

Eich Gwasanaethwr rhwymedig, gostyngeiddiaf,

EVAN EVANS.

AT Y CYMRY.

Pan welais fod un o _Ysgodogion Ucheldir Alban_, ac hefyd _Sais_ dysgedig, wedi cyfieithu gwaith eu hen Feirdd i'r _Saesoneg_, mi a dybygais mai nid gweddus i ni, y _Cymry_, y rhai sydd genym Gerddi awduraidd, gorhenaidd, o'r einom, fod yn llwyr ddiymdro yn y cyngaws hwnnw: o herwydd, hyd i gwn i, dyna'r unig ragorgamp celfyddyd a adawodd ein hynafiaid ini, sydd heb ei cholli. I mae _gwaith y Derwyddon_, od oedd dim gwiwgof ganddynt wedi ei ysgrifennu, wedi myned ar ddifancoll; ac nid oes dim wedi dyfod i'n hoes ni oddiwrthynt, ond y Brydyddiaeth yn unig. I mae ein hen _Fusic_ wedi ei llwyr ebargofio: nid yw'r cyweiriau cwynfanus sydd genym yr awron ond dychymmygion diweddar, pan oedd y _Cymry_ yn griddfan tan iau galed y _Saeson_. Am gelfyddydau eraill, od oedd dim mewn perffeithrwydd, i mae gwedi ei lwyr golli. Nid oes genym ddim hanes am ein hynafiaid o'n hawduron ein hunain, ond oddiwrth y Beirdd yn unig, o flaen _Gildas ap Caw_; yr hwn sydd yn ein goganu, ac yn ein llurginio, yn hytrach nag ysgrifennu cywir hanes am danom; ond fo wyr hanesyddion yr achos: heblaw hyn, i mae ei waith ef wedi myned drwy ddwylo'r _Meneich_; gwyr a fedrai yn dda ddigon dylino pob peth i'w dibenion eu hunain.--Y Beirdd, fal i tystia _Giraldus_, Arch-diacon _Brycheiniog_, oeddynt yn cadw achau y Brenhinoedd, ac yn coffau eu gweithredoedd ardderchog; ac oddiwrthynt hwy yn ddiammau i deryw i _Dysilio_ fab _Brochwel Ysgythrog_, tywysog _Powys_, ysgrifennu'r _hanes_ sydd yr awron yn myned tan enw BRUT Y BRENHINOEDD, yr hwn a ddarfu i _Galfrid ap Arthur_, o Aber Mynwy, ei gyfieithu o iaith _Llydaw_ i'r _Lladin_, ac oddiyno yn _Gymraeg_; fel i mae ef ei hunan yn cyfaddef mewn amryw hen gopiau ar femrwn, sydd etto i'w gweled yng Nghymru; ond ysywaith, e ddarfu iddo chwanegu amryw chwedlau at hanes _Tysilio_: _Flamines_ ac _Archiflamines_, a phrophwydoliaeth _Myrddin Emrys_, a phethau eraill a fuasai harddach eu gadael heibio. Ped fuasai yn dilyn y Beirdd, e fuasai genym gywirach hanes nag sydd genym yr awron: ond fel ag i mae, ni haeddai yn gwbl mo'r gogan i mae'r _Saeson_, o amser _Camden_, yn ei rhoi iddi; o herwydd i mae _Nennius_, yr hwn a ysgrifennodd drychant o flynyddoedd o'i flaen, yn rhoddi yr un hanes am ein dechreuad. Ir wyf yn amcanu, os Duw a rydd im' hoedl ac iechyd, osod allan yr awdur hwn a nodau helaeth arno, gyd ag amddiffyniad o'r hanes; o herwydd efe yw'r hanesydd hynaf a feddwn yn _Lladin_, oddigerth y _Gildas_ uchod, yr hwn nid yw deilwng ei gyfrif yn hanesydd; o herwydd nid dyna ei gyngyd na'i fympwy, yn ei _Epistolae de excidio Britanniae_. Ir wyf yn methu a chaffael copi iawn o _Nennius_, ac ir wyf yn meddwl nad oes un yng Nghymru a dal ddim, ond yn _Hengwrt_: da iawn er lles y wlad a hanesyddion _Prydain_, i gwnai ei berchennog adael i ryw wr dysgedig ei gymharu. I mae genyfi ddau gopi, ond i maent yn dra ammherffaith; felly hefyd i mae'r rhai printiedig, o eiddo'r Dr. _Gale_ a _Bertram_. Ni wiw i _Sais_, na neb dieithr, bydded mor ddysgedig ag i mynno, oni ddeall ef Gymraeg yn iawn, ac oni chaiff hefyd weled ein hen ysgrifenadau a'n Beirdd ni, gytcam a'r fath waith. Nid yw _Camden_, er dysgedicced, diwytted, a manyled gwr ydoedd, ond ymleferydd am lawer o bethau yn ei _Britannia_; a hyny yn unig, o achos nad oedd yn medru yr iaith yn well. A gresyn yw, nad oedd y _Saeson_, y rhai oeddynt yn ddiau (rai o naddunt) yn chwilio pethau yn deg, ac yn ddiduedd dros ben, y cyfryw ag ydoedd _Leland_, _Usher_, a _Selden_, yn deall ein iaith, a medru gwneuthur defnydd o'n hen lyfrau: o herwydd hyn, nid oeddynt, er cymaint eu dysg a'u dawn, ddim i'w cyffelybu ag _Wmffre_ _Llwyd_ o _Ddinbych_, a _Rhobert Fychan_ o'r _Hengwrt_, fel i mae eu gwaith yn eglur ddangos. Ac yn ddiau, mae yn ammhosibl i undyn, bydded mor gywreinied ag i myno, wneuthur dim a ffrwyth ynddo, heb gaffael gweled yr hen ysgrifenadau, sydd yn gadwedig yn llyfr-gelloedd y boneddigion yng _Nghymru_; yn enwedig yn _Hengwrt_, a _Llan Fordaf_. Myfi a welais, ac a gefais fenthyg amryw lyfrau o waith llaw, yn llyfrgrawn yr anrhydeddus _Robert Davies_, ysgr. o _Lannerch_ yn Swydd _Dinbych_; a Sir _Roger Mostyn_ yng _Ngloddaith_, seneddwr dros Swydd _Flint_; a chan yr anrhydeddus _William Fychan_, ysgr. o _Gors y Gedol_, seneddwr dros Swydd _Feirionydd_; yr hyn ni fedraf lai na'i fynegu yma yngwydd y byd, er coffau eu cymmwynas a'u hewyllys da i'n gwlad a'n iaith, ac i minnau hefyd; yn ol arfer canmoladwy, a haelioni yr hen _Frython_ gynt.

Ond i ddyfod weithion at y Beirdd, yr rhai a adawsom ar ol. Ef a ddarfu imi gyfieithu ychydig odlau o'u gwaith, trwy annogaeth gwyr dysgedig o _Loegr_; ac mi a ewyllysiwn wneuthur o honof hynny er clod iddynt; ond i mae yn rhaid im' adael hynny ym marn y darllenyddion: ac nid oes genyfi ddim i'w ddywedyd, os drwg yw'r cyfieithiad, nad arnaf i yn llwyr i mae'r bai yn sefyll; o herwydd i maent y Beirdd yn ddiammau yn orchestol odiaeth; ond i mae'n rhaid addef hefyd eu bod yn anhawdd afrifed eu deongli, o herwydd eu bod yn llawn o eiriau sydd yr awron wedi myned ar gyfrgoll: ac nid ydynt wedi eu heglurhau mewn un Geiriadur argraffedig nac ysgrifenedig a welais i. Ir oedd yr Athraw hynod o _Fallwyd_, yr hwn a astudiodd yr iaith er lles cyffredin y wlad, dros holl ddyddiau ei einioes, yn methu eu deongli. Ac ni wnaeth y dysgedig Mr. _Edward Llwyd_ o'r _Musaeum_, gamp yn y byd yn y perwyl yma, er ei fod yn gydnabyddus a holl geinciau prifiaith _Prydain_. Ac yn ddiau o'r achos yma, nid oedd genyfi ddim ond ymbalfalu am ystyr a synwyr y Beirdd, mewn llawer man, oddiwrth flaen ac ol. Ir wyf yn rhyfeddu'n ddirfawr am rai o'r _Cymry_ sydd yn haeru fod gwaith _Taliesin_, a'i gydoesiaid _Aneurin Gwawdrydd_, _Llywarch Hen_, a _Merddin Wyllt_, yn hawdd eu deall. Yn ddiau nid wyf i yn deall mo honynt, ac i mae'r rhai dysgediccaf yn yr iaith, y to heddyw, yn addef yr un peth. I mae'r Beirdd, hir oesoedd gwedi hyny, sef ar ol dyfodiad _Gwilym Fasdardd_, hyd farwolaeth, _Llywelyn ap Gruffydd_, yn dywyll iawn; fal i gellwch weled oddiwrth yr odlau sydd yn canlyn. Hyn a barodd i mi beidio a chyfieithu chwaneg o honynt y tro yma, rhag ofn imi, trwy fy anwybodaeth, wneuthur cam a hwynt. Ond gan i'r _Saeson_ daeru, na feddwn ddim mewn prydyddiaeth a dal ei ddangos; mi a wnaethum fy ng'orau er cyfieithu y Casgliad bychan yma, i fwrw heibio, os yw bossibl, y gogan hwnnw: ac yn ddiau, os na wyddodd genyf wneuthur hyny, i mae yn rhaid i'r Beirdd, a'm cydwladwyr, faddeu imi; a gobeithio i derbyniant fy ewyllys da, herwydd na ddichon neb wneuthur ond a allo.--Heblaw hyn oll, i mae hyn o waith yn dyfod i'r byd, mewn amser anghyfaddas i ymddangos mewn dim prydferthwch; o herwydd i mae un o drigolion yr _Uch Alban_, gwedi gosod allan ddau lyfr o waith _Ossian_; hen Fardd, meddai ef, cyn dyfod Cristianogaeth i'w plith. Ac i mae'r llyfrau hyn mewn rhagorbarch gan foneddigion dysgedig y _Saeson_. A rhaid addef eu bod wedi eu cyfieithu yn odidog: ond i mae arnafi ofn, wedi'r cwbl, fod yr _Ysgodog_ yn bwrw hug ar lygaid dynion, ac nad ydynt mor hen ag i mae ef yn taeru eu bod. I mae'r _Gwyddelod_ yn arddelw _Ossian_ megis un o'u cydwladwyr hwynt; ac i mae amryw bethau yn y cerddi a gyhoeddwyd yn ei enw, yn dangos, yn fy nhyb i, oes ddiweddarach nag i mae'r cyfieithydd yn son am dani; yn enwedig dyfodiad Gwyr _Llychlyn_ i'r _Iwerddon_, yr hyn ni ddigwyddodd, meddai hanesyddion yr _Iwerddon_, cyn y flwyddyn 700. Ac ni ddaeth yr _Ysgodogion_ chwaith i sefydlu yn yr _Alban_, o flaen _Fergus Mac Ein_, ynghylch y flwyddyn 503; fal i mae _William Llwyd_, Esgob _Caerwrangon_, wedi ei brofi yn ddiwrthadl, yn ei lyfr ynghylch llywodraeth eglwysig. Ond pei canniatteid eu bod hwy yno cyn hynny, ni fyddai hynny ronyn nes i brofi _Ossian_ mor hyned ag i dywedir ei fod. O herwydd ped fuasai, pa fodd i mae ei gyfieithydd yn medru ei ddeongli mor hyfedr? I mae gwaith ein Beirdd ni, sydd gant o flynyddoedd ar ol hynny, tu hwnt i ddeall y gwir cywreiniaf a medrusaf yn yr hen _Frutaniaith_. Pwy o honom ni a gymerai'r _Gododin_, gwaith _Aneurin Gwawdrydd_, Fychdeyrn Beirdd, a'i gyfieithu mor llathraidd ag i gwnaeth cyfieithydd _Ffingal_ a _Themora_? Ir wyfi yn meddwl nad oes neb a ryfygei gymmeryd y fath orchest arno. Prin iawn i medreis i ddeongli rhai pennillion o hono yma a thraw, y rhai a ellwch eu gweled yn y traethawd _Lladin_ ynghylch y Beirdd. A gresyn yw ei fod mor dywyll, o herwydd, hyd ir wyf fi yn ei ddeall, gwaith godidog ydyw. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am _Daliesin_ Ben Beirdd, nid oes neb heddyw, hyd i gwn i, a fedr gyfieithu yn iawn un o'i Awdlau na'i Orchanau. Myfi a wn fod amryw Frudiau ar hyd y wlad, wedi eu tadogi ar _Daliesin_ a _Myrddyn_; ond nid ydynt ond dychymygion diweddar, gwedi eu ffurfeiddio ar ol marwolaeth _Llywelyn ap Gruffydd_. Yn enwedig yn amseroedd terfysglyd _Owain Glyndwr_, a'r ymdrech rhwyg pleidiau _Efrog_ a _Lancaster_. I mae hefyd eraill, gwedi eu lluniaethu gan y Meneich, i atteb eu dibenion hwythau; ond i mae'r rhain oll yn hawdd eu gwahanu oddiwrth awduraidd waith _Taliesin_, wrth yr iaith.--I mae yn ddiammau genyf, fod y bardd yma yn odidog yn ei amser. Ir oedd yn gydnabyddus ag athrawiaith y _Derwyddon_ am y [Greek text], a'r Daroganau, y rhai oeddynt yn ddiammau, weddillion o'r Credo paganaidd; canys nid yw daroganu ddim arall ond mynegi pethau i ddyfod, oddiwrth y _Ddar_, yr hon ir oeddynt y _Derwyddon_ yn ei pherchi yn fawr iawn. A chan ei fod ef yn wr llys, ac yn byw yn yr oes anwybodus honno, ir oedd yr hyn a ddywedai yn cael ei dderbyn a'i roesawu gan y gwerinos, megis ped fuasai wir broffwyd. A hynny a ellir ei ddywedyd hefyd am Ferddin Emrys, a'i broffwydoliaeth. Mor anhawdd yw tynnu ofergoelion eu hynafiaid, oddiwrth un wlad neu genedl!

E ddichon rhai o honoch ysgatfydd ofyn, Paham na buaswn yn cyfieithu rhai o'r Beirdd godidog diweddar, a ysgrifenasant wedi diwygio yr hen gynghanedd? I'r rhain ir wyf yn ateb, fod y Beirdd yn amser y tywysogion yn fwy ardderchog a mawryddig yn eu gwaith; ac ir oeddynt eu hunain, rai o naddunt, yn dywysogion, ac yn wyr dyledogion; yn enwedig, _Owain Cyfeiliog_, tywysog _Powys_; a _Hywel ap Owain Gwynedd_, Bardd a rhyfelwr godidog: ac felly ir oeddynt yn fwy penigamp na'r Beirdd diweddar, o ran eu testunau. Canys ir oedd y Beirdd diweddar, fel i mae _Sion Dafydd Rhys_ yn achwyn arnynt, yn gwenieithio i'r gwyr mawr, ac yn dywedyd celwydd ar eu can; ac yn haeru iddynt dorri cestyll, lladd a llosgi, pryd ir oeddynt, eb ef, yn cysgu yn eu gwelyau, heb ddim mo'r fath feddwl nac amcan ganddynt. Eithr yn amser y tywysogion, o'r gwrthwyneb, ir oedd y Beirdd yn dystion o ddewredd a mawrfrydigrwydd eu tywysogion; ac ir oeddynt eu hunain yn filwyr glewion. Ir oedd _Meilir Brydydd_ yn gennad dros _Ruffydd ap Cynan_ at frenin _Lloegr_; ac ir oedd _Gwalchmai_, ei fab, yn flaenor cad ynghyffinydd _Lloegr_ a _Chymru_; fel i maent ill dau yn tystiolaethu yn eu cerddi. Heblaw hyn, ir oedd y tywysogion yma yn fuddugawl yn eu rhyfeloedd a'r _Saeson_, ac ir oedd hynny yn peri i'r Beirdd ymorchestu, i dragywyddoli eu gweithredoedd ardderchog; ac i foli eu gwroldeb mewn achos mor glodfawr ag amddiffyn eu gwlad a'u rhyddid, yn erbyn estron genedl, a'u difuddiasei o dreftadaeth eu hynafiaid. Ir oedd y rhain yn ddiau yn destunau gwiw i Feirdd ganu arnynt, ac yn fodd cymmwys i beri i'w deiliaid eu perchi a'u hanrhydeddu; canys ir oedd y cerddi godidog yma yn cael eu datgan gyda'r delyn, mewn cyweiriau cyfaddas, mewn gwleddau yn llys y tywysog, ac yn neuaddau y pendefigion a'r uchelwyr. I mae _Giraldus_ yn dywedyd, fod y _Cymry_ mor ddrud a milwraidd yn ei amser ef, ag na rusynt ymladd yn noeth ac yn ddiarfog, a'r rhai arfog, llurugog; a'r pedydd yn erbyn y marchogion. Yn ddiau nid oedd un modd a ellid ei ddychymmygu well, i gynnal yr yspryd dihafarch yma yn ein hynafiaid, na chael eu moli gan y Beirdd. Ac e wyddai'r _Saeson_ hynny yn dda ddigon; canys ar ol darostwng _Cymru_ tan eu llywodraeth, e ddarfu iddynt ddihenyddu'r Beirdd trwy'r holl wlad. I mae llyfrau ystatud Lloegr, yn llawn o gyfreithiau creulon i'w herbyn, ac yn gwarafun yn gaeth iddynt ymarfer o'u hen ddefodau, o glera a chymhortha. Yn amser _Owain Glyndwr_, i cawsant ychydig seibiant a chynhwysiad i ganu; ond gwedi hynny, hyd ddyfodiad _Harri'r Seithfed_, ir oeddynt tan gwmmwl. Gwedi iddo ef ddyfod i lywodraethu, ac yn amser ei fab, _Harri'r Wythfed_, a'r frenhines _Elisabeth_, y rhai a hanoeddynt o waed Cymreig, i cawsant gynhwysiadau i gynnal Eisteddfodau: ond ni pharhaodd hynny ond ennyd fechan, o herwydd bonedd Cymru a ymroisant i fod yn Saeson, fel i maent yn parhau gan mwyaf hyd y dydd heddyw.

Ond i mae rhai yn yr oes yma yn chwenychu eu cadw a'u coledd, er mwyn eu hiaith ddigymmysg, ac er mwyn gwell gwybodaeth o foesau ac ansawdd ein hynafiaid; ac er mwyn eu teilyngdod eu hunain; o herwydd i mae yn rhai o'u Hawdlau a'u Cywyddau, ymadroddion mor gywraint a naturiol ag sydd ym Mhrydyddion Groeg a Rhufain; mal i gwyr y sawl a'u deallant yn dda.--Ymysg eraill i mae Cymdeithas y Cymmrodorion, yn Llundain, yn rhoddi mawrbarch iddynt; ac yn chwenychu cadw cynnifer o'n hen ysgrifenadau ag sydd heb fyned ar goll. A da i gwneynt foneddigion Cymru, ped ymoralwent am argraffu y pethau mwyaf hynod a gwiwgof mewn prydyddiaeth, hanesion, ac eraill hen goffadwriaethau; o herwydd i maent beunydd yn cael eu difrodi, gan y sawl ni wyddant ddim gwell. Hyn, er lles ein gwlad a'n iaith, yw gwir a diffuant ddamuniad

Eich gostyngedig wasanaethwr, a'ch ewyllysiwr da,

EVAN EVANS.

I. HIRLAS OWAIN.

_Owain Cyfeiliog e hun ai cant_.

Gwawr pan ddwyre gawr a ddoded,
Galon yn anfon anfudd dynged,
Geleurudd ein gwyr gwedi lludded trwm,
Tremit gofwy mur _Maelawr Drefred_.

Deon a yrrais dygyhyssed,
Diarswyd a'r frwydr arfau goched,
A rygoddwy glew gogeled rhagddaw,
Gnawd yw oi ddygnaw ddefnydd codded!

Dywallaw di fenestr gan foddhaed,
Y corn yn llaw _Rhys_ yn llys llyw ced,
Llys _Owain_ ar braidd yt ryborthed erioed,
Porth mil a glywi pyrth egored.

Menestr am gorthaw, nam adawed
Estyn y corn er cyd yfed,
Hiraethlawn am llyw lliw ton nawfed,
Hirlas i arwydd aur i dudded:

A dyddwg o fragawd wirawd orgred,
Ar llaw Wgan draws dros i weithred,
Canawon Goronwy, gwrdd gynnired gwyth,
Canawon hydwyth, hydr eu gweithred:
Gwyr a obryn tal ymhob caled,
Gwyr yngawr gwerthfawr gwrdd ymwared,
Bugelydd Hafren balch eu clywed,
Bugunat cyrn medd mawr a wna neued.

Dywallaw di'r corn argynfelyn,
Anrhydeddus, feddw, o fedd gorewyn,
Ac o'r mynni hoedl hyd un blwyddyn,
Na ddidawl i barch, can nid perthyn,
A dyddwc i Ruffydd waewruddelyn,
Gwin a gwydr goleu yn ei gylchyn,
Dragon Arwystli, arwystl terfyn,
Dragon Owain hael o hil Cynfyn,
Dragon iw dechreu, ac niw dychryn cat,
Cyflafan argrat cymwy erlyn.
Cetwyr idd aethant er clod obryn:
Cyfeddon, arfawc, arfau Edwyn,
Talassant i medd mal gwyr Belyn gynt,
Teg i hydrefynt tra bo undyn.

Dywallaw di'r corn, canys amcan cennyf,
Ydd ymgyrryw glyw gloyw ymddiddan,
Ar llaw ddehau ein llyw gyflafan,
Lluch y dan ysgwyd ysgawn lydan,
Ar llaw Ednyfet llawr diogan lew,
Ergyrwayw trylew, trei i darian.
Terfysc ddyffysc ddeu ddiofn anian,
Torrynt torredwynt uch teg adfan,
Teleirw yngbyngrein ynghyfran brwydr,
Tal ysgwyd eurgrwydr torrynt yn fuan:
Tryliw eu pelydr gwedi penwan,
Trylwyn yn amwyn amwiw Garthan.
Cigleu ym Maelawr gawr fawr fuan,
A garw ddisgyrr gwyr, a gwyth erwan,
Ac ymgynnull am drull am dramwyan,
Fal i bu ym Mangor am ongyr dan:
Pan wnaeth dau deyrn uch cyrn cyfrdan.
Pan fu gyfeddach Forach Forfran.

Dywallaw di'r corn, canys myfyr gennyf,
Men ydd amygant medd a'n tymmyr,
_Selif_ diarswyt orsaf _Gwygyr_,
Gogelet ai cawdd calon eryr!
Ac unmab _Madawc_, enwawg _Dudur_ hael,
Hawl bleiddiad, lleiddiad, lluch ar ysgyr,
Deu arwreidd, deu lew, yn eu cyngyr,
Deu arial dywal dau fab _Ynyr_,
Dau rydd yn nydd cad eu cyfergyr,
Cyfargor diachor camp diachyr,
Arfod llewod gwrdd, gwrddwan cadwyr,
Aer gunieid, lunieid, coch eu hongyr,
Treis erwyr yn ffwyr ffaw ehegyr,
Trei eu dwy aesawr dan un ystyr,
Gorfu gwynt gwaeddfan uch glan glasfyr,
Gorddwy clau tonnau _Talgarth_ ystyr.

Dywallaw di fenestr na fyn angau,
Corn can anrhydedd ynghyfeddau,
Hirlas buelin, breint uchel hen ariant,
Ai gortho nid gorthenau:
A dyddwg i _Dudur_, eryr aerau,
Gwirawd gyssefin o'r gwin gwinau,
Oni ddaw i mewn o'r medd gorau oll,
Gwirawd o ban, dy ben faddau,
Ar llaw _Foreiddig_, llochiad cerddau,
Cerddyn hyn i glod cyn oer adnau,
Dieithr frodyr fryd ucheldau,
Diarchar arial a dan dalau,
Cedwyr am gorug gwasanaethau,
Nid ym hyn dihyll nam hen deheu
Cynnifieid, gyrthieid, fleinieid, fleiddiau,
Cynfaran creulawn creulyd ferau,
Glew glyw _Mochnannwys_ o _Bowys_ beu:
O glew gwnedd arnaddunt deu,
Achubieit pob rheid, rhudd eu harfeu:
Echedwynt rhag terfysc eu terfynau,
Moliant yw eu rhann y rhei gwynnau;
Marwnad fu neud mi newid y ddau!
O chan Grist mor drist wyf o'r anaeleu!
O goll _Moreiddig_ mawr ei eissieu.

Dywallaw di'r corn can nim puchant,
Hirlas yn llawen yn llaw _Forgant_,
Gwr a ddyly gwawd gwahan foliant,
Gwenwyn y addwyn, gwan edrywant,
Areglydd defnydd dioddefiant llafn,
Llyfn i deutu llym ei hamgant.

Dywallaw di fenestr o lestr ariant,
Celennyg edmyg, can urdduniant,
Ar llawr _Gwestun_ fawr gwelais irdant,
Ardwy _Goronwy_ oedd gweith i gant,
Cedwyr cyfarfaeth ydd ymwnaethant,
Cad ymerbynieid, eneid dichwant,
Cyfarfu ysgwn ac ysgarant aer,
Llas aer, llosget maer ger mor lliant:
Mwynfawr o garcharawr a gyrchassant,
_Meurig fab Gruffydd_ grym ddarogant,
Neud oedd gochwys pawb pan atgorsant,
Neud oedd lawn o heul hirfryn a phant.

Dywallaw di'r corn ir cynnifieid,
Canawon _Owain_, cyngrein, cydneid,
Wynt a ddyrllyddant yn lle honneid,
Glud men ydd ant gloyw heyrn ar neid:
_Madawc_ a _Meilir_ gwyr gorddyfneid treis,
Tros gyferwyr gyferbynieid:
Tariannogion torf, terfysc ddysgeid,
Trinheion faon, traws ardwyeid.
Ciglau am dal medd myned dreig _Cattraeth_,
Cywir eu harfaeth, arfau lliweid,
Gosgordd Fynyddawc am eu cysgeid,
Cawssant y hadrawdd cas flawdd flaenieid;
Ni wnaeth a wnaeth fynghedwyr ynghalet _Faelor_,
Dillwng carcharor dullest foleid.

Dywallaw di fenestr fedd hidlaid, melus,
Ergyrwayw gwrys gochwys yn rheid,
O gyrn buelin balch oreuraid,
Yr gobryn gobrwyau henaid;
O'r gynnifer anhun a borth cynnieid
Nis gwyr namyn Duw ac ai dywaid.

Gwr ni dal ni dwng, ni bydd wrth wir,
_Daniel_ dreig cannerth, mor ferth hewir,
Menestr mawr a gweith yd ioleithir
Gwyr ni oleith lleith, oni llochir,
Menestr medd ancwyn a'n cydroddir,
Gwrdd-dan gloyw, goleu, gwrddloyw babir
Menestr gwelud dy gwyth yn Llidwm dir
Y gwyr a barchaf wynt a berchir.
Menestr gwelud dy galchdoed Cyngrein,
Ynghylchyn _Owain_ gylchwy enwir,
Pan breiddwyd Cawres, taerwres trwy dir,
Preidd ostwng orflwng a orfolir,
Menestr nam didawl, nim didolir,
Boed ym mharadwys in cynhwysir,
Can pen teyrnedd, poed hir eu trwydded,
Yn i mae gweled gwaranred gwir. AMEN.

II. AWDL

_I Fyfanwy Fechan_, _o Gastell Dinas Bran_. _Howel ap Einion Lygliw ai cant_.

Neud wyf ddihunwyf, hoen Creirwy hoywdeg,
Am hudodd mal Garwy,
O fan or byd rwymgwyd rwy,
O fynor gaer Fyfanwy.

Trymmaf yw cariad tramwy, hoen eurnef,
Hyn arnaf dy faccwy,
Dy far feinwar Fyfanwy,
Ar ath gar ni fu far fwy.

Gofyn ni allawdd namyn gofwy cur,
Dyn mewn cariad fwy fwy,
Fynawg eirian Fyfanwy,
Fuchudd ael fun hael fyw'n hwy.

Eurais wawd ddidlawd, ddadl rwy adneuboen,
Adnabod Myfanwy,
Poen ath gar afar ofwy,
Poen brwyn ei ryddwyn i ddwy.

Gorwydd, cyrch ebrwydd, ceirch ebran addas,
Dwg dristwas, dig Drystan,
Llwrw buost, farch llary buan,
Lle arlloes fre eurllys Fran.

Gwn beunydd herwydd herw amcan, ddilyd
Ddelw berw Caswennan:
Golwg, deddf amlwg diddan,
Gwelw, freich fras brenhinblas Bran.

Gyrrais a llidiais farch bronn llydan, hoyw,
Er hoen blodau sirian:
Gyrrawd ofal yr Alban,
Garrhir braisc ucheldir Bran.

Lluniais wawd, ddefawd ddifan, traul ofer,
Nid trwy lafur bychan:
Lliw eiry cynnar pen Aran,
Lloer bryd, lwys fryd o lys Fran.

Mireinwawr Drefawr dra fo brad im dwyn,
Gwarando fy nghwyn, frwyn freuddwydiad,
Mau glwyf a mowrnwyf murniad, huno heb
Gwrtheb teg atteb tuac attad
Mi dy fardd digardd, dygn gystuddiad Rhun,
Gyfun laes wannllun ith lys winllad.
Mynnu ddwyf draethu heb druthiad na gwyd
Wrthyd haul gymmryd, gamre wasdad.
Mynnud hoyw fun loyw oleuad gwledydd,
Glodrydd, gain gynnydd, nid gan gennad,
Maint anhun haelfun hwylfad, em cyfoeth
Ddoeth, fain oleugoeth, fy nau lygad,
Medron boen goroen nid digarad was,
Heb ras, mau drachas om edrychiad.
Magwyr murwydr hydr, hydreiddiad lwysle,
Mygrwedd haul fore eurne arnad.
Megis llwyr gludais llawer gwlad, yn ddwys,
Dy glod lwys, cynnwys pob datceiniad,
Mal hy oedd ymmy, am wyl gariad graen,
Myfanwy hoen blaen eiry gaen gawad.
Meddwl serchawl, hawl, lliw ton hwyliad welw,
Arddelw dygynnelw heb dy gynheiliad.
Modd trist im gwnaeth Crist croesdog neirthiad llwyr,
Wanwyr oi synwyr drwy lud senniad.
Murn boen a mi om anynad hawl,
Serchawl eneidiawl un fynediad.
Mul i bwriais, trais tros ddirnad Duw gwyn,
Tremyn ar ddillyn porphor ddillad.
Megis ti ferch rhi, rhoddiad gymmyrredd,
Mwyfwy anrhydedd, wledd wledychiad.
Marw na byw, nwyf glyw gloyw luniad cyngaws,
Hoednaws nid anaws im am danad.
Meddwl ofeiliaint braint braidd im gad llesmair,
I gael yr eilgair wrth offeiriad.
Masw imi brofi, brif draethiad a wnawn,
Lle nim rhoddi iawn, ne gwawn, na gwad.
Mesur cawdd anawdd i ynad eglur,
Adrawdd fy nolur ddwysgur ddysgiad.
Modd nad gwiw, lliw lleuad rhianedd,
Nam gwedd hud garedd, nam hoed girad.
Meinir nith borthir, gwn borthiad poenau,
Yn nenn hoen blodau blawd yspyddad.
Medraist, aur delaist adeilad gwawd,
Im nychdawd ddifrawd ddyfrys golliad.
Meddylia oth ra ath rad, ith brydydd
Talu y carydd Duw dofydd dad.

Prydydd wyf, tros glwyf, trais glud, poen gwaneg,
Iaith laesdeg ith lwysdud:
Fynawg riain fain funud:
Fun arlludd hun eirllwydd hud.

Im neud glud, dy hud hydr, riain wanlleddf,
O'r wenllys ger Dinbrain:
Aml yw gwawd gynnefawd gain,
Om araith ith dwf mirain.

III. AWDL

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Dafydd Benfras ai cant_.

Gwr a wnaeth llewych o'r gorllewin,
Haul a lloer addoer, addef iessin,
Am gwnel, radd uchel, rwyf cyfychwin,
Cyflawn awen, awydd _Fyrddin_,
I ganu moliant mal _Aneurin_ gynt,
Dydd i cant _Ododin_.
I foli gwyndawd _Gwyndyd_ werin,
_Gwynedd_ bendefig, ffynnedig ffin,
Gwanas deyrnas, deg cywrennin,
Gwreidd, teyrneidd, taer ymrwydrin,
Gwrawl ei fflamdo am fro Freiddin.
Er pan orau Duw dyn gyssefin,
Ni wnaeth ei gystal traws arial trin.
Gorug _Llewelyn_, orllin teyrnedd,
Ar y brenhinedd braw a gorddin
Pan fu yn ymbrofi a brenin _Lloegyr_,
Yn llygru swydd _Erbin_.
Oedd breisc, weisc ei fyddin,
Oedd brwysc rwysc rhag y godorin,
Oedd balch gwalch, golchiad ei lain,
Oedd beilch gweilch, gweled ei werin,
Oedd clywed cleddyfau finfin,
Oedd clybod clwyf ymhob elin,
Oedd briw rhiw yn nhrabludd odrin,
Oedd braw saw _Saeson_ clawdd y _Cnwecin_,
Oedd bwlch llafn yn llaw gynnefin,
Oedd gwaedlyd pennau, gwedi gwaedlin rhwy,
Yn rhedeg am ddeulin.
_Llewelyn_, ein llyw cyffredin,
Llywiawdr berth hyd _Borth Ysgewin_,
Ni ryfu gystal _Gwstennin_ ag ef,
I gyfair pob gorllin.
Mi im byw be byddwn ddewin,
Ym marddair, ym mawrddawn gyssefin,
Adrawdd ei ddaed aerdrin ni allwn,
Ni allai _Daliesin_.
Cyn adaw y byd gyd gyfrin,
Gan hoedyl hir ar dir daierin,
Cyn dyfnfedd escyrnwedd yscrin,
Cyn daear dyfnlas, arlessin,
Gwr a wnaeth o'r dwfr y gwin,
Gan fodd Duw a diwedd gwirin,
Nog a wnaethpwyd trais anwyd trin,
Ymhrefent ymhrysur orllin:
Ni warthaer hael am werthefin nos,
A nawdd saint boed cyfrin.

IV. CANU

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Einiawn fab Gwgawn ai cant_.

Cyfarchaf o'm naf, am nefawl Arglwydd,
Crist Celi culwydd, cwl i ddidawl,
Celfydd leferydd o le gweddawl,
Celfyddydau mau ni fo marwawl:
I brofi pob peth o bregeth _Bawl_,
I foli fy rhi, rhwyf angerddawl,
Rhyfel ddiochel, ddiochwyth hawl,
_Llewelyn_ heilyn, hwylfeirdd waddawl,
Llawenydd i ddydd, i ddeddf ai mawl,
Llewychedig llafn yn llaw reddfawl,
Yn lladd, dy wrthladd iwrth lys _Rheidiawl_,
Gweleis a gerais ni gar mantawl,
Gwelygordd _Lleission_ llyssoedd gweddawl,
Lluoedd arwoloedd ar weilw didawl,
Llawrwyr am eryr yn ymeiriawl,
_Llewelyn_ lleyn, llyw ardderchawl,
Lluriglas, gwanas, gwanau a hawl,
Gwenwyn yn amwyn am dir breiniawl _Powys_,
Ae diffiwys, ae glwys a glyw ei hawl,
Ef dynniad ynghad; _Eingl_ frad freuawl,
Ef dandde rhuddle _Rhuddlan_ is gwawl,
Gweleis _Lewelyn_, eurddyn urddawl,
Yn urddas dreigwas dragywyddawl,
Eil gweleis i dreis dros ganol _Dyfrdwy_,
Yn y trei tramwy llanw rhwy, rhwydd hawl
Gweleis aer am gaer oedd engiriawl,
Talu pwyth dydd gwyth, canyseawl,
Ni ryweleis neb na bo canmawl,
O'r ddau y gorau a fo gwrawl.

Mi ath arwyre, ath arwyrein myfyr,
Eryr yn rhywyr, prifwyr _Prydein_.
Prydfawr _Lewelyn_ pryd dyn dadiein,
Prydus, diescus, escar ddilein.
Escynnu ar llu ar lle _Ewein_,
Ysgymmod gorfod, gorfalch am brein,
Ysgymmyn gwerlyn, gwerlid gofiein,
Ysgymydd clodrydd, _Kulwydd_ a _Llwyfein_,
Lluddedig edmyg, meirch mawrthig mein;
A lluoedd yngwiscoedd yn ymoscrein,
Ar llinyn ar dynn ar du celein,
A llinon rhag Bron rhag bro _Eurgein_,
Tyrfa _Clawdd Offa_ clod yn hoffiein,
A thorfoedd _Gwynedd_ a gwyr _Llundein_,
Cyfran tonn a glan, glafdir gwylein,
Golud mowr ystrud, ysgryd _Norddmein_,
_Llewelyn_ terwyn, torf anghyngein,
Biau'r gwyr gorau, bachau bychein,
Priodawr mwynglawr _Mon_ glod yscein,
Areul golud pentud, _Pentir Gwychein_.
Gwawr _Dehau_ gorau, gwyr yn dyrein,
Gwenwyn a gwanar y ddau gar gein,
Ae lyw cyferyw, cyfwyrein a thrin,
A thrychieid gwerin _Caer Fyrddin_ fein,
Ni sefis na thwr, na bwr, bu crein,
Nag argoed, na choed, na chadlys drein,
A rhag pyrth bu syrth _Saeson_ ynghrein.
Oedd trist maer, oedd claer cleddyf heb wein,
A chan llu pannu, pen ar ddigrein,
A chan llaw lludwaw _Llan Huadein_,
_Cil Geran_ achlan, a chlod goelfein,
A chlwyr ar dyhedd, mawredd mirein,
Yn _Aber Teifi_ tew oedd frein uch benn,
Yn yd oedd perchen parchus gyfrein.
Oedd tew peleidr creu, creuynt gigfrein,
Calanedd gorwedd gorddyfnassein,
_Llewelyn_ boed hyn boed hwy ddichwein,
No _Llywarch_ hybarch, hybar gigwein.
Nid celadwy dreig, dragon gyngein,
Nid calan cyman gwr y gymein,
Hydwf yngnif ai lif o lein,
Hyd ydd el yn rhyfel hyd yn _Rhufein_,
Ai raglod ai rod o riw Feddgein,
Hyd i dwyre haul hyd y dwyrein.

Ys imi rwydd Arglwydd, argleidrad,
Argledr tir, a gwir a gwenwlad,
Ys imi or cyngor cyngwasdad,
Cywesti peri peleidrad,
Ys imi ri ryfel ddiffreiddiad,
Diffryd gwyr, eryr ardwyad,
Ys imi rwydd Arglwydd, erglywiad
A glywir o'r tir gar _Tanad_,
Ys imi glew, a llew a lleiddiad
Yn rhyfel a rhon orddyfniad,
Ys imi wr a wared i rad,
I reidus, galarus, geilwad.
Ys imi ner yn arwyn ddillad,
Yn arwein ysgin ysgarlad,
Ys imi _Nudd_, hael fudd, Hueil feiddiad,
Ar Lloegr ryllygrwys heb wad.
Ys imi _Rydderch_, roddiad aur melyn,
Molitor ymhob gwlad.
A mawrdud olud olygad,
A _Mordaf_ am alaf eiliad,
Ys imi _Run_ gatcun gytcam rad,
Cydgaffael, a hael, a hwyliad
Ef imi y meddwl difrad,
Mi iddaw yn llaw yn llygad,
Ni henyw o afryw afrad,
Mi hanwy o henwyr ei dad,
Llachar far, aerfar, erfynniad,
Llachar fron o frydau _Gwriad_.
Lluchieint gweilch am walch gynnifiad,
Fal lluchynt estrawn wynt _Ystrad_.
Hunydd nen perchen parchus fad,
Parch arfawr, _Arfon_ angoriad.
_Llewelyn_ dreis, erlyn drwssiad,
Dros dehau angau oth angad,
Angor mor y mawr gymynad,
Angawr llawr llurig Duw am danad.

Rhy chyngein _Prydein_ yn ddibryder,
I Briodawr llawr yn llawn nifer.
_Llewelyn_ gelyn yn i galwer
I gelwir am dir am dud tymer.
Llawenydd lluoedd llew ymhryder,
Llywiawdr ymmerawdr mor a lleufer,
I ddylif cynnif cynhebyccer
I ddylann am lann, am leissiaid ffer.
Terfysc tonn ddilysc ddyleinw aber:
Dylad anwasdad ni osteccer.
Terwynt twrf rhywynt yn rhyw amser,
A rhialluoedd lluoedd llawer.
Torfoedd ynghyoedd ynghyflawnder
Tariannau golau mal i gweler:
Ry folant anant, anaw cymer,
Ry molir i wir i orober,
I wryd yn rhyd yn rheid nifer,
I orofn gwraf yn ydd eler,
I orfod gorfod glod a glywer,
I wyr am eryr ni amharer,
I warae orau pan waraer,
I wayw a orau yn ddau hanner,
Dinidir yn nydd brwydr yn yd brofer,
Dinoding perging, pargoch hydrfer,
Dinas, dreig urddas, eurddawn haelder
Dinag o fynag pan ofynner,
Dyn yw _Llewelyn_ llywiawdr tyner,
Doeth coeth cywrennin, gwin a gwener,
A'r gwr ai rhoddes ni ran o'r pader,
Ai rhoddo ef gwenfro gwynfryn uch ser.

V. ARWYRAIN

_Owain Gwynedd_. _Gwalchmai ai cant_.

Arddwyreaf hael o hil _Rodri_,
Ardwyad gorwlad, gwerlin teithi,
Teithiawg _Prydain_, twyth arfdwyth _Owain_,
Teyrnain ni grain, ni grawn rei.
Teir lleng i daethant, liant lestri,
Teir praff prif lynges wy bres brofi,
Un o'r _Iwerddon_, arall arfogion
Or _Llychlynigion_, llwrw hirion lli.
Ar drydedd dros for o _Norddmandi_,
Ar drafferth anferth, anfad iddi.
A dreig _Mon_ mor ddrud i eissillyd yn aer,
A bu terfysc taer i haer holi,
A rhagddaw rhewys dwys dyfysci,
A rhewin a thrin a thranc Cymri,
A'r gad gad greudde, a'r gryd gryd graendde,
Ac am dal _Moelfre_ mil fannieri,
A'r ladd ladd lachar, ar bar beri,
A ffwyr ffwyr ffyrfgawdd ar fawdd foddi,
A _Menai_ heb drai o drallanw gwaedryar,
A lliw gwyar gwyr yn heli:
A llurygawr glas, a gloes trychni,
A thrychion yn nhud rhag rheiddrudd ri,
A dygyfor _Lloegr_, a dygyfranc a hi,
Ag ei dygyfwrw yn astrusi,
A dygyfod clod cleddyf difri,
Yn saith ugain iaith wy faith foli.

VI. AWDL

_I Nest ferch Hywel_. _Einiawn fab Gwalchmai ai cant_.

Amser Mai maith ddydd, neud rhydd rhoddi,
Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli,
Neud llafar adar, neu gwar gweilgi,
Neud gwaeddgreg gwaneg, gwynt yn edwi,
Neud arfeu doniau, goddau gwedi,
Neud argel dawel nid meu dewi,
Endeweis i wenyg o Wynnofi dir,
I am derfyn mawr meibion _Beli_,
Oedd hydreidd wychr llyr yn llenwi,
Oedd hydr am ddylan gwynfan genddi,
Hyll nid oedd ei deddf hi hwyreddf holi,
Hallt oedd i dagrau, digrawn heli,
Ar helw bun araf uch bannieri ton,
Tynhegl a gerddais i gorddwfr _Teifi_,
Ceintum gerdd i _Nest_ cyn noi threngi,
Cant cant i moliant mal _Elifri_,
Canaf gan feddwl awrddwl erddi,
Caniad i marwnad, mawr drueni!
Canwyll _Cadfan_ lan o lenn bali.
Canneid i synnieid gar _Dysynni_,
Gwan, wargan, wyrygall, ddeall ddogni,
Gwreig nid oedd un frad gariad genthi,
Gweryd rhudd ai cudd gwedi tewi,
Gwael neuedd maenwedd mynwent iddi,
Golo _Nest_ goleu ddireidi.
Golwg gwalch dwythfalch o brif deithi,
Gwenned gwawn ai dawn oi daioni,
_Gwynedd_ anrhydedd, oedd rhaid wrthi,
Nid oedd ffawd rhy gnawd rhin y genthi,
Gnawd oedd dal eur mal er i moli,
Ni ryfu dognach er i dogni poen,
Penyd a fo mwy no'r meu hebddi,
Neum gorau angau anghyfnerthi,
Nid ymglyw dyn byw o'r byd fal mi,
Ni chyfeirch angen iawlwen ioli,
Er neb rhy barther i rhyborthi,
_Nest_ yn ei haddawd, wenwawd weini,
Ydd wyf pryderus fal pryderi.
Pryderwawd ceudawd, cyfnerthi ni wnn,
Nid parabl yw hwn ni fo peri.
Llen argel issel y sy'm poeni,
Lludd _Gwen_ lliw arien ar _Eryri_.
Archaf im Arglwydd culwydd celi,
Nid ef a archaf arch egregi,
Arch, ydd wyf un arch yn i erchi,
Am archfein riein, reid y meini,
Trwy ddiwyd eiriawl deddfawl _Dewi_.
A deg cymmeint seint senedd _Frefi_,
Am fun a undydd i hammodi,
A'r gystlwn pryffwn y prophwydi,
Ar gyfoeth Duw doeth i detholi,
Ar anghyweir _Meir_ a'r merthyri,
Ag yn i goddau gweddi a ddodaf,
Am dodeis nwyf im addoedi.
Ni bu ddyn mor gu gennyf a hi
Ni bo poen oddef, _Pedr_ wy noddi,
Ni bydd da gan Dduw i diddoli,
Ni bo diddawl _Nest_, nef boed eiddi.

VII. AWDL

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Llywarch Brydydd y Moch ai cant_.

Crist Greawdr, llywiawdr llu daear a nef
Am noddwy rhag afar,
Crist celi, bwyf celfydd a gwar,
Cyn diwedd gyfyngwedd gyfar.
Crist fab Duw am rhydd arllafar,
I foli fy rhwyf rhwysg o ddyar,
Crist fab Mair am pair o'r pedwar defnydd,
Dofn awen ddiarchar.
_Llewelyn_ llyw _Prydain_ ai phar,
Llew a glew a glyw gyfarwar,
_Fab Iorwerth_ ein cannerth an car,
_Fab Owain_ ffrawddiein, ffrwyth cynnar,
Ef dyfu dreig llu yn llasar dillat,
Yn ddillyn cyfarpar,
Yn erfid, yn arfod abar,
Yn arfau bu cenau cynnar,
Yn ddengmlwydd hylwydd hylafar,
Yn ddidranc ei gyfranc ai gar,
Yn _Aber Conwy_, cyn daffar fy llyw,
_Llewelyn_ athrugar,
A _Dafydd_, defawd _Ul Caissar_,
Difai ddraig, ddragon adwyar,
Difwlch udd difalch i esgar,
Difwng blwng blaen ufel trwy far,
Dybryd in feirdd byd bod daear arnaw,
Ac arnam i alar.
Ef yn lly w cyn llid gyfysgar,
Ysglyfion ysglyfiynt llwrw bar,
Oedd rynn rudd ebyr or gwyr gwar,
Oedd ran feirw fwyaf o'r drydar,
Oedd amliw tonnau, twnn amhar eu neid,
Neud oeddynt dilafar.
Ton heli ehelaeth i bar,
Ton arall guall, goch gwyar.
_Porth Aethwy_ pan aetham ni ar feirch mordwy,
Uch mowrdwrf tonniar,
Oedd ongyr, oedd engir ei bar,
Oedd angudd godrudd gwaedryar,
Oedd enghyrth ein hynt, oedd angar,
Oedd ing, oedd angau anghymar,
Oedd ammau ir byd bod abar o honam,
O henaint lleithiar.
Mawr gadau, anghau anghlaear,
Meirw sengi, mal seri sathar,
Cyn plygu _Rodri_, rwydd esgar, ym _Mon_
Mynwennoedd bu braenar,
Pan orfu pen llu llachar,
_Llewelyn_ llyw _Alun_ athafar,
Myrdd bu lladd, llith brein gorddyar,
O'r milwyr, a mil yngharchar.
_Llewelyn_ cyd lladdwy trwy far,
Cyd llosgwy, nid llesg ufeliar,
Llary deyrn, uch cyrn cyfarwar
Llwrw cydfod ir clod is claiar,
Ry llofies rwyf treis tros fanniar i feirdd,
Oedd fawrllwyth ir ddaear,
Gwisci aur ag ariant nis oar.
Gwascwynfeirch gosseirch, gosathar,
Ysginfawr gorfawr, gorwymp par,
Yscarlad lliw ffleimiad, fflamiar,
Meirch Mawrthig, ffrwythig, ffraeth, anwar,
Ffrawddus, a phreiddiau ewiar.
Mwth i rhydd, arwydd yngwascar,
Mal _Arthur_ cein fodur cibddar,
Cann a chann; a chein wyllt a gwar,
Cant a chant a chynt nog adar

_Adar_ weinidawg, caeawg Cynran drud,
Dreig _Prydein_ pedryddan,
Addod Lloegr, lluossawg am bann,
Addaf hir in herwydd calan,
Adwedd teyrnedd tir nis rhan,
A dan ser ys sef i amcan,
Adnes i franhes i frein bann,
Dychre dychrein gwyr yngrheulan,
Gwrdd i gwnaeth uch Deudraeth _Dryfan_,
Gwr hydwf, gwrhydri _Ogyrfan_
Dygwydd gwyr heb lafar heb lan,
Dygoch llawr dwygad fawr faran,
Un am fro _Alun_, elfydd can,
A _Ffrainc_ yn ffrawddus mal _Camlan_;
Ar eil yn _Arfon_ ar forfan,
Yn undydd an un Duw in a ran,
A dwy dreig ffeleig, ffaw gymman
Mal deulew ein dylochassan,
Ag un traws gatcun, treis faran,
Fal gwr yn gorfod ymhobman,
_Llewelyn_ llafn-eur anghyfan,
Lloegr ddiwreidd, llu rhuddfleidd _Rhuddlan_,
Llu rhagddaw a llaw ar llumman,
Llwybr yn wybr yn ebrwydd allan,
Llwrw ddawn _Cadwallawn fab Cadfan_.
I mae am _Brydain_ yn gyfan,
Llary ni ddel ei law ettaw attan,
Llyried tra myned tramor dylan,
Rhag llaith anolaith anolo llan,
A llafnawr lledrudd uch grudd a gran,
Ninnau Feirdd _Prydein_, prydus eirian berth,
Gwyr a byrth fy rhwyf ymhob calan,
Er digabl barabl gan bawb oi fan,
Digrifwch elwch elyf egwan,
Oi ariant gormant gorym ni drudran,
O'i alaf ai aur ai ariant can.

Gan i ddwyn dychryn a ddechreuo bleid,
Uch blaenwel yn oed llo,
Gnaws achaws yn ych cyn adfo,
Gnawd i ladd ni lwydd i abo.
_Caer Lleon_ llyw _Mon_ mwyn _Pabo_ ath dug,
Ef ath dwg ynghodo,
_Llewelyn_ ef llosges dy fro,
Llas dy wyr dra llyr, dra llwyfo,
Llwyr dug y _Wyddgrug_, nid ffug ffo,
_Lloegrwys i_ llugfryd i synnio,
Llewdir teyrn lluddiwyd yn agro,
Llas i glas, i glwystei neud glo,
Llys _Elsmer_, bu ffer, bu ffwyrngno,
Llwyr llosged i thudwed ai tho,
Llwrw gwelwch neud heddwch heno
Gan fy rhwyf, nid rhyfedd cyd bo,
Hyd i del i dorf ar dyno a bryn,
Udd breiniawg bieufo,
Llew ai dug, ai dwg pan fynno,
Ir _Trallwng_ trillu anwosgo,
Llys efnys, afneued tra fo.
Lles i fyrdd o feirdd ai cyrcho.
Addug y _Wyddgrug_ ai dycco,
Gwyliwch gwylyddwr, pwy ai lluddio,
Llwrw _Fochnant_ edrywant ar dro,
Llwytcwn llwyth llithiwyd am honno,
Lletcynt _Argoedwys_, gwys greudo,
Llys a dwy neud einym ni heno.
Edryched _Powys_ pwy fo,
Brenin breisg werin, brwysg agdo,
Ai gwellygio pwyll rhydwyllo:
Ai gwell _Ffranc_ no ffrawddus _Gymro_.
Llyw y sy ym, synniwch cyd tawo,
Lloegr gychwyn, a fynn a fynno,
Llwyr i dyd i fryd ar fro _Gadwallawn_
_Fab Cadfan_, _fab Iago_,
Llary yspar ys penyd iblo,
Llwrw espyd yspeid anolo,
Llew prydfawr llyw _Prydain_ ai chlo,
_Llewelyn_ lliaws ei fran fro,
Llary deyrn cedyrn, cad wosgo; ynghur
Ys fy nghar a orffo.

Gorfydd Udd dremrudd, dramor lliant,
Ym _Mon Mam Gymru_ bedryddant,
Gorllwybr llu llenwis ewyngant,
Gwarthaf bryn a phenrhyn a phant,
Gorllanw gwaed am draed a ymdrychant,
Amdrychion pan ymdrechassant,
Cad y _Coed Anau_, Cadr anant borthi,
Burthiaist wyr yn nifant.
Ail gad trom i tremynasant,
Udd addien uch _Dygen Ddyfnant_,
Eil miloedd mal gwyr dybuant,
Eil yrth gyrth in gwrthfynnassant,
Eil agwrdd ymwrdd am hardd amgant bre
_Bron yr Erw_ i galwant,
Cynwan llu fal llew yth welsant,
Cadr eryr ith wyr yn warant,
Can hynny cynhennu ni wnant,
Can wyllon _Celyddon_ cerddant,
Dugost y _Wyddgrug_, a dygant i dreis
Adryssedd cyfnofant,
A _Rhuddlan_ yn rhuddliw amgant,
_Rhun_ can clawdd adrawdd edrywant
A _Dinbych_ wrthrych gorthorrant ar fil,
Ar _Foelas_ a _Gronant_
A _chaer yn Arfon_, a charant yngnif,
Yngnaws coll am peiriant,
A _Dinas Emreis_ a ymrygant,
Amrygyr ni wneir na wnant
Neur orfydd dy orofyn nad ant
Ith erbyn ith erbarch feddiant
Neu'r orfuwyd yn orenw Morgant
Ar filwyr _Prydain_ pedryddant
Dy gynnygn ni gennyw cwddant,
Ni gaiff hoen na hun ar amrant,
Mad ymddugost waed, mad yth want,
Arall yn arfoll ysgarant,
A chleddyf, a chlodfawr yth wnant,
Ag ysgwyd ar ysgwydd anchwant,
Mad tywyssaisd dy lu, Lloegr irdant,
Ar derfyn _Mechain_ a _Mochnant_,
Mad yth ymddug dy fam, wyd doeth,
Wyd dinam, wyd didawl o bob chwant,
O borffor o bryffwn fliant,
O bali ag aur ag ariant,
O emys gochwys gochanant dy feirdd,
Yn fyrddoedd i caffant.
Minnau om rhadau rhymfuant,
Yn rhuddaur yn rhwydd ardduniant,
O bob rhif im Rhwyf im doniant,
O bob rhyw im rhodded yn gant
Cyd archwyf im llyw y lloergant yn rhodd,
Ef am rhydd yn geugant.
_Lliwelydd_ lledawdd dy foliant,
_Llewelyn_, a _Llywarch_ rwy cant.
Munerawd ym marw fy mwyniant fal yn byw
_Lleissiawn_ ryw _Run_ blant.
Nyd gormod fy ngair it gormant!
Teyrn wyd tebyg _Eliphant_,
Can orfod pob rhod yn rhamant,
Can folawd a thafawd a thant.
Cein deyrn, cyn bych yngreifiant,
Can difwyn o ysgwn esgarant,
Can Dduw ren yn ran westifiant
Can ddiwedd pob buchedd, bych sant.

VIII. PUM AWDL

_I Lewelyn fab Gruffydd_. _Llygad Gwr ai cant_.

I.

Cyfarchaf i Dduw, ddawn orfoledd,
Cynnechreu doniau, dinam fawredd,
Cynnyddu, canu, can nid rhyfedd dreth,
O draethawd gyfannedd,
I foli fy Rhi rhwyf _Arllechwedd_,
Rhuddfaawg freiniawg o frenhinedd,
Rhyfyg udd _Caissar_, treis far trossedd,
Rhuthrlym, grym _Gruffydd_ etifedd,
Rhwysg frwysg, freisg, o freint a dewredd,
Rhudd barau o beri cochwedd,
Rhyw iddaw diriaw eraill diredd,
Rhwydd galon, golofn teyrnedd.
Nid wyf wr gwaglaw wrth y gogledd,
O Arglwydd gwladlwydd, glod edryssedd,
Nid newidiaf naf un awrwedd a neb,
Anebrwydd dangnefedd.
Llyw y sy ym ys aml anrhydedd,
Lloegr ddifa o ddifefl fonedd,
_Llewelyn_ gelyn, galon dachwedd,
Llary wledig gwynfydig _Gwynedd_,
Llofrudd brwydr, _Brydein_ gywryssedd,
Llawhir falch, gwreiddfalch gorsedd,
Llary, hylwydd, hael Arglwydd eurgledd,
Llew _Cemmais_, llym dreis drachywedd,
Lle bo cad fragad, friwgoch ryssedd,
Llwyr orborth hyborth heb gymwedd,
Gnaws mawrdraws am ardal dyhedd,
Gnawd iddaw dreiddiaw drwyddi berfedd,
Am i wir bydd dir or diwedd,
Amgylch _Dyganwy_ mwyfwy i medd,
A chiliaw rhagddaw a chalanedd creu,
Ag odduch gwadneu gwaed ar ddarwedd.
Dreig _Arfon_ arfod wythlonedd
Dragon diheufeirch heirddfeirch harddedd,
Ni chaiff _Sais_ i drais y droedfedd oi fro,
Nid oes o _Gymro_ i Gymrodedd.

II.

Cymmrodedd fy llyw lluoedd beri,
Nid oes rwyf eirioes, aer dyfysgu,
_Cymro_ yw haelryw o hil _Beli_ hir,
Yn herwydd i brofi.
Eurfudd ni oludd, olud roddi,
Aerfleidd arwreidd o _Eryri_,
Eryr ar geinwyr gamwri dinam,
Neud einym i foli.
Eurgorf torf tyroedd olosci,
Argae gryd, Greidiawl wrhydri,
Arwr bar, taerfar, yn torri cadau,
Cadarnfrwydr ystofi.
Aer dalmithyr, hylithr haelioni,
Arf lluoedd eurwisgoedd wisgi
Arwymp Ner, hyder, hyd _Teifi_ feddiant,
Ni faidd neb i gospi.
_Llewelyn Lloegrwys_ feistroli,
Llyw breiniawl, brenhinedd teithi,
Llary deyrn cedyrn, yn cadw gwesti cyrdd
Cerddorion gyflochi.
Coelfein brein _Bryneich_ gyfogi,
Celennig branes, berthles borthi,
Ciliaw ni orug er caledi gawr,
Gwr eofn ynghyni.
Parawd fydd meddiant medd Beirdd im Rhi,
Pob cymman darogan derfi,
O _Bwlffordd_ osgordd ysgwyd gochi hydr,
Hyd eithaf _Cydweli_.
Can gaffael yn dda dra heb drengi,
Gan fab Duw didwyll gymmodi,
Ys bo i ddiwedd ddawn berchi ar nef,
Ar neilliaw Crist Geli.

III.

Llyw y sy'n synhwyrfawr riydd,
Lliwgoch i lafnawr, aesawr uswydd,
Lliw deifniawg, llidiawg, lledled fydd ei blas,
Llwyr waeth yw ei gas noi garennydd.
_Llewelyn_ gelyn, galofydd,
Llwyrgyrch darogan cymman celfydd,
Ni thyccia rhybudd hael rebydd rhagddaw,
Llaw drallaw drin wychydd.
Y gwr ai rhoddes yn rhwyf dedwydd,
Ar _Wynedd_ arwynawl drefydd,
Ai cadarnhao, ced hylwydd yn hir,
I amddeffyn tir rhag torf oswydd.
Nid aniw, nid anhoff gynnydd,
Neud enwawg farchawg, feirch gorewydd,
I fod yn hynod hynefydd _Gymro_,
A'r _Gymry_ a'u helfydd.
Ef difeiaf Naf rhy wnaeth Dofydd,
Yn y byd o bedwar defnydd,
Ef goreu riau reg ofydd a wnn,
Eryr _Snawtwn_ aer gyfludwydd.
Cad a wnaeth, cadarn ymgerydd,
Am gyfoeth, am Gefn Gelorwydd,
Ni bu gad, hwyliad hefelydd gyfred,
Er pan fu weithred waith _Arderydd_.
Breisclew _Mon_, mwynfawr _Wyndodydd_,
Bryn _Derwyn_ clo byddin clodrydd,
Ni bu edifar y dydd i cyrchawdd,
Cyrch ehofn essillydd.
Gwelais wawr ar wyr lluosydd,
Fal gwr yn gwrthladd cywilydd,
A welei _Lewelyn_, lawenydd dragon,
Ynghymysc _Arfon_ ac _Eiddionydd_,
Nid oedd hawdd llew aerflawdd lluydd,
I dreissiaw gar Drws Daufynydd,
Nis plygodd Mab Dyn bu doniawg ffydd,
Nis plycco Mab Duw yn dragywydd.

IV.

Terfysc taerllew glew, glod ganhymdaith,
Twrf torredwynt mawr uch mor diffaith,
Taleithiawg deifniawg dyfniaith _Aberffraw_,
Terwyn anrheithiaw, rhuthar onolaith.
Tylwyth, ffrwyth, ffraethlym eu mawrwaith,
Teilwng blwng, blaengar fal goddaith,
Taleithawg arfawg aerbeir _Dinefwr_,
Teilu hysgwr, ysgwfl anrhaith.
Telediw gad gywiw gyfiaith,
_Toledo_ balch a bylchlafn eurwaith,
Taleithawg _Mathrafal_, maith yw dy derfyn,
Arglwydd _Lewelyn_, lyw pedeiriaith,
Sefis yn rhyfel, dymgel daith,
Rhag estrawn genedl, gwyn anghyfiaith,
Sefid Brenin nef, breiniawl gyfraith,
Gan eurwawr aerbeir y teir taleith.

V.

Cyfarchaf i Dduw o ddechrau moliant,
Mal i gallwyf orau,
Clodfori o'r gwyr a geiriau
I'm pen, y penaf a giglau,
Cynnwrf tan, lluch faran llechau,
Cyfnewid newydd las ferau,
Cyfarf wyf a rhwyf, rhudd lafnau yngnif,
Cyfoethawg gynnif cynflaen cadau.
_Llewelyn_ nid llesg ddefodau,
Llwybr ehang, ehofn fydd mau,
Llyw yw hyd _Gernyw_ aed garnedd i feirch,
Lliaws ai cyfeirch, cyfaill nid gau,
Llew _Gwynedd_ gwynfeith ardalau,
Llywiawdr pobl, _Powys_ ar _Dehau_,
Llwyrwys caer, yn aer, yn arfau,
_Lloegr_ breiddiaw am brudd anrheithiau,
Yn rhyfel, ffrwythlawn, dawn diammau,
Yn lladd yn llosci yn torri tyrau,
Yn _Rhos_ a _Phenfro_, yn rhysfaau _Ffrainc_,
Llwyddedig i ainc yn lluyddau.
Hil _Gruffydd_, grymmus gynneddfau,
Hael gyngor, gyngyd wrth gerddau,
Hylathr i ysgwyd, escud barau gwrdd,
Hylym yn cyhwrdd cyhoedd waedffrau.
Hylwrw fwrw far, gymmell trethau,
Hawlwr gwlad arall gwledig riau,
Harddedd o fonedd, faen gaerau dreisddwyn,
Hirbell fal _Fflamddwyn_ i fflamgyrchau.
Hwylfawr ddreig, ddragon cyfeddau,
Heirdd i feirdd ynghylch ei fyrddau,
Hylithr i gweleis ddydd golau i fudd,
Ai feddgyrn wirodau.
Iddaw i gynnal cleddyfal clau,
Mal _Arthur_ wayw dur i derfynau,
Gwir frenin _Cymru_ cymmreisc ddoniau,
Gwrawl hawl boed hwyl o ddehau.

IX. ODLAU'R MISOEDD,

_I Sir Gruffydd Llwyd o Dref-garnedd a Dinorweg yn Arfon_; _allan or Llyfr Coch o Hergest_, _yngholeg yr Iesu yn Rhyd Ychen_. _Gwilym Ddu o Arfon ai cant_. 1322.

Neud cyn nechrau Mai mau anrhydedd,
Neud aeth ysgwaeth a maeth a medd,
Neud cynhebyg, ddig, ddygn adrossedd drist,
Er pan ddelid Crist, weddw athrist wedd!
Neud cur a lafur im wylofedd,
Neud cerydd Dofydd, nad rhydd rhuddgledd.
Neud cof sy ynnof, ys anwedd ei faint,
Neud cywala haint, hynt diryfedd.
Neud caeth im dilyd llid llaweredd,
Neud caith Beirdd cyfiaith am eu cyfedd.
Neud caethiwed ced, nad rhydd cydwedd _Nudd_,
Cadrwalch _Ruffydd_, brudd, breiddin tachwedd,
Neud cwyn Beirdd trylwyn, meddw ancwyn medd,
Neud cawdd im anawdd, menestr canwledd,
Neud carchar anwar enwiredd Eingl-dud,
Aerddraig _Llan Rhystud_ funud fonedd.
Neud nim dyhudd budd, bum arygledd,
Neud nam dilyd llid, lliaws blynedd.
Neud nam dawr, Duw mawr, maranedd, Nef glyw,
Neud nad rhydd fy llyw, llew _Trefgarnedd_,
Neud trwm oi eisiau dau digyfedd.
Neu'r wyr Beirdd canwlad, nad rhad rheufedd,
Neud ef arwydd gwir, neud oferedd gwyr,
Wrth weled f' eryr yn ei fowredd;
Neud truan i'm gwan gwayw lledfrydedd,
Neud trwydded galed im amgeledd.
Neud trymfryd _Gwynedd_, gwander dyedd braw:
Neud hwy eu treisiaw am eu trossedd.
Neud trahir gohir gloyw babir gledd,
Oedd trablwng echwng _Achel_ ddewredd.
Neud trai cwbl or Mai, mawredd allwynin,
Neud mis Mehefin weddw orllin wedd.
Neud mis Mehefin, mau hefyd gystudd,
Neud nam rhydd _Gruffydd_ wayw rhudd yn rhyd.
Neum rhywan im gwan gwayw cryd engiriawl,
Neud am Ddraig urddawl didawl im dyd.
Neum erwyr om gwyr im gweryd Crist Ner,
Neud arfer ofer, Beirdd nifer byd.
Neud arwydd nam llwydd lledfryd im calon,
Neud eres nad tonn honn ar ei hyd.
Mau ynnof mowrgof am ergyd gofal,
Am attal arial _Urien_ yngryd.
Mal cofain cywrain _Cywryd_, fardd _Dunawd_,
Meu im Dreig priawd gwawd ni bo gwyd.
Mau gwawdgan _Afan_, ufuddfryd ffrwythlawn,
O gof _Gadwallawn_, brenhinddawn bryd.
Ni wn waith gwaywdwn, gwawd ddihewyd clod,
A thi heb ddyfod pa dda bod byd?
Neud wyr pawb yn llwyr, lleyrfryd gynnat,
Nad hylithr aur mal mal oddiwrthyd.
Nid oes nerth madferth ym myd, oth eisiau,
Gwleddau na byrddau na Beirdd ynghlyd.
Nid oes lys ysbys, esbyd neud dibeirch,
Nad oes meirch na seirch na serch hyfryd.
Nad oes wedd na moes, masw ynyd yw'n gwlad,
Nad oes mad eithr gwad a gwyd.
Neud gwagedd trossedd, traws gadernid _Mon_,
Neud gweigion _Arfon_ is _Reon_ ryd.
Neud gwann _Wynedd_ fann, fen ydd ergyd cur,
Neud gwael am fodur eglur oglyd.
Neud blwyddyn i ddyn ddiofryd a gar,
Neud blaengar carchar, grym aerbar gryd.

X. DYHUDDIANT ELPHIN.

_Taliesin ai dywawd_.

I.

Elphin deg taw ath wylo
Na chabled neb yr eiddo
Ni wna les drwg-obeithio
Ni wyl dyn ddim ai portho
Ni fydd goeg gweddi _Cynllo_
Ni thyrr Duw ar addawo:
Ni chad yngored _Wyddno_,
Erioed cystal a heno.

II.

Comments

Log in to leave a comment.

Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh BardsChapter III: Part 3

0%34 min left in chapter